Adfer Cynefinoedd Afon

‘Adfer prosesau naturiol a chysylltedd afonydd a nentydd i wella cynefin ar gyfer pob rhywogaeth’

Mae afonydd a nentydd yn amgylcheddau sy’n newid yn gyson ac yn cael eu gyrru gan nifer o brosesau naturiol gwahanol. Mae’r newid cyson hwn yn creu amrywiaeth enfawr o gynefinoedd a llawer o’r cilfachau sydd eu hangen ar fywyd gwyllt i oroesi. Yn anffodus, mae llawer o gyrsiau dŵr yr Afon Ddyfrdwy wedi dod yn fwy unffurf ar ôl blynyddoedd o reolaeth megis carthu, lledu’r sianel, gosod waliau cynnal caled ar y glannau, cael gwared ar goed sydd wedi cwympo, a phori dwys ar y glannau, ac o ganlyniad yn effeithio ar fywyd gwyllt yr afon.

Nod y rhaglen hon yw adfer y prosesau naturiol sy’n creu cynefinoedd lle gall bywyd gwyllt ffynnu. Mae hyn yn cynnwys ymyriadau fel ffensio i alluogi coed i aildyfu, atal erydiad gormodol, ychwanegu deunydd coediog i mewn i’r afonydd, cael gwared ar strwythurau o waith dyn, ac ail-greu nodweddion gorlifdir.


Astudiaeth Achos Rhwystr Afon Llynor

Mae rhywogaethau sy’n mudo i fyny ac i lawr afonydd, fel eogiaid neu lysywod, yn aml yn cael eu hunain yn sownd y tu ôl, neu o flaen, rhwystrau. Gall hyn arwain at oedolion yn blino’n lân cyn iddynt gyrraedd y mannau silio, neu wyniaid (eogiaid ifanc yn teithio’n ôl i’r môr) yn cael eu gwasgu yn erbyn creigiau neu’n cael eu dal ac yn agored i ysglyfaethu wrth iddynt nofio’n ôl i’r môr.

Roedd y groesfan hon ar un o lednentydd y Ddyfrdwy yn achosi problemau i eogiaid llawn dwf yn symud i fyny’r afon i silio, ac o bosibl yn achosi difrod i’r gwyniad oedd yn symud i lawr yr afon wrth iddynt gael eu gwasgu yn erbyn creigiau o dan y cwymp fertigol. Symudwyd clogfeini i’r sianel i’w chulhau a chreu cyfres o byllau dyfnach, gan gynnig llwybr dŵr dyfnach ar draws y strwythur concrit. Unwaith yr oedd y clogfeini yn eu lle, defnyddiwyd graean i lenwi’r bylchau rhyngddynt a chodi lefel y dŵr yn y pyllau. Nid yn unig y mae hyn yn golygu y gall pysgod llawn dwf fynd i fyny’r afon i’w safleoedd silio yn haws, ac felly gyda mwy o egni i silio, mae hefyd yn darparu dŵr dyfnach ar gyfer y gwyniad wrth iddynt ddod dros y strwythur yn y gwanwyn a dechrau’r haf, gan hwyluso eu taith i’r môr.


Metrau o gynefin glannau’r afon wedi’u hadfer

Hydau yn yr afon wedi’u hadfer

Rhwystrau i fudiad pysgod wedi’u dileu

2022

Roedd 2022 yn flwyddyn o newid i’r rhaglen Adfer Cynefinoedd Afon wrth i rai prosiectau ddod i ben a rhai newydd yn ddechrau.

Mae gwaith a ariannwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer gwella cynefinoedd pysgod wedi arwain at gyfres o ymyriadau ar draws llednentydd y Ddyfrdwy yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar greu cynefinoedd da ar gyfer eogiaid a brithyllod ifanc. Hefyd, dechreuodd prosiect newydd yn nalgylch Aldford Brook mewn partneriaeth â Severn Trent Water ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Gaer. Mae llifoedd isel a achosir gan dynnu dŵr yfed yn niweidio ecosystem y nant. Er mwyn helpu i liniaru’r effaith, mae Severn Trent Water yn ariannu gwelliannau i gynefinoedd er budd bywyd gwyllt dŵr croyw’r dalgylch.

Roedd 2022 hefyd yn flwyddyn o adnabod a llunio prosiectau ar draws dalgylch y Ddyfrdwy a bydd 2023 yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y prosiectau adfer cynefinoedd a gyflawnir.


Astudiaeth Achos Llednant yr Afon Alwen

Mae cynefin afon yn ymdrin â mwy na’r sianel wlyb yn unig. Mae’n ymestyn o’r gorlifdir, ar draws glannau’r afon ac i mewn i’r sianel. Lle bo modd, ceisiwn sicrhau ein bod yn cymryd camau i wella cynefinoedd ar draws yr holl sefyllfaoedd hyn. Cymerodd y prosiect hwn, ar un o lednentydd yr Afon Alwen, gamau i wella cynefin y sianel, glannau’r afon a’r gorlifdir. Cafodd deunydd coediog mawr ei dorri a’i leoli’n ofalus yn yr afon i greu amrywiaeth o lifoedd gan ddarparu riffiau silio a gorchudd i bysgod.

Cafodd glannau’r afon ei ffensio i atal yr holl dda byw rhag mynd at y dŵr, gan ganiatáu i goed a llystyfiant tal ffynnu ar hyd ymyl y dŵr. Gosodwyd ffens eilaidd hefyd ymhellach i ffwrdd o’r afon sy’n caniatáu i’r ffermwr reoli mynediad da byw i’r gorlifdir gwlyb cyfagos, gan sicrhau’r maint cywir o bori er mwyn caniatáu i’r amrywiaeth fwyaf o blanhigion ffynnu, a chreu lle i infertebratau ac adar.