Rydyn ni’n gyffrous iawn bod Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru wedi’i dewis i gymryd rhan yn y ‘Big Give Green Match Fund’. Bydd rhoddion i’n rhaglen Ni Ddylai Fod yn y Ddyfrdwy yn cael eu dyblu’n hael gan ‘The Big Give Trust’ yn ystod yr ymgyrch sy’n golygu y gall eich arian gefnogi dwywaith cymaint o unigolion a chymunedau i gymryd camau ymarferol i wella iechyd y Ddyfrdwy.
Dywedodd Peter Powell, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru:
Mae’r gefnogaeth y mae ein rhaglen Ni Ddylai Fod yn y Ddyfrdwy yn ei rhoi i unigolion a grwpiau wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddod o hyd i ffynonellau llygredd a’u dileu. Mae’r codwr arian hwn yn gyfle gwirioneddol i godi arian fel y gallwn gefnogi hyd yn oed mwy o grwpiau a phobl. Os byddwn yn codi £5,000 mewn rhoddion ar-lein, bydd y Big Give yn dyblu hyn i £10,000! Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i roi’r wybodaeth a’r offer sydd eu hangen ar fwy o unigolion a chymunedau i adnabod a thrwsio ffynonellau llygredd ar draws dalgylch y Ddyfrdwy. Hyd yn oed yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae pob tamaid bach o gefnogaeth yn ddefnyddiol ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr a bydd yn cael effaith wirioneddol ar iechyd yr afon Ddyfrdwy.
Sut gallwch chi gymryd rhan?
- Ewch i BigGive.org a gwneud rhodd o 20 – 27 Ebrill
- Gosodwch nodyn atgoffa ac ychwanegwch ein tudalen ymgyrchu ato fel eich bod yn cofio peidio â cholli’ch cyfle i ddyblu eich rhodd!
Sylwch y bydd y botwm rhodd yn ymddangos ar dudalen yr ymgyrch pan fydd y ‘Green Match Fund’ yn cael ei lansio.