Gwyddom fod llawer o sbwriel yn Finchett’s Gutter, un o lednentydd y Ddyfrdwy yng Nghaer, gan gynnwys pethau fel trolïau! Rydym eisiau glanhau rhannau o’r ardal hon i mewn yn y nant ac ar y glannau. Bydd hwn yn sesiwn codi sbwriel ‘trwm’ gyda chodi a chario eitemau mawr a thrwm a mynd i lawr at ymyl y dŵr.
Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Her Adferiad Gwyrdd y Llywodraeth. Datblygwyd y gronfa gan Defra a’i Chyrff Hyd Braich. Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Natural England, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Comisiwn Coedwigaeth.