Lleoliad: Llangollen, Gogledd Cymru.
Cyflog: £21,826.54 pro rata.
7.5 awr yr wythnos. (Gyda phosibilrwydd o weithio am ddiwrnod llawn neu dros gyfres o ddyddiau)
Pensiwn: Opsiwn o bensiwn yr Ymddiriedolaeth Afonydd; Cyfraniad gweithwyr o 4% a chyfraniad cyflogwyr o 9%.
Gwyliau: 25 diwrnod (pro rata) + gwyliau banc
Yn atebol i’r: Prif Swyddog Gweithredol.
Ynglŷn ag Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru: Elusen fach annibynnol yw Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru sy’n gweithio i adfer nentydd ac afonydd dalgylch y Ddyfrdwy ar gyfer bywyd gwyllt a phobl. Mae’r Ymddiriedolaeth, sy’n aelod o’r mudiad ymddiriedolaeth afonydd ehangach, yn mynd trwy gyfnod cyffrous o dwf ac mae angen cymorth gweinyddol ychwanegol arni nawr.
Trosolwg o’r Swydd: Bydd y Cynorthwy-ydd Swyddfa a Gweinyddu yn rhoi cymorth i’r Prif Weithredwr a rheolwyr rhaglen Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru. Bydd y rôl wedi’i lleoli yng nghanolfan Busnes Malthouse, Llangollen a bydd yn addas ar gyfer unigolyn sy’n chwilio am nifer fach o oriau hyblyg.
Cyfrifoldebau a dyletswyddau
- • Cyflawni tasgau gweinyddol, ariannol, iechyd a diogelwch, adnoddau dynol, cyfathrebu ac ati
- • Teipio dogfennau, cofnodion ac ati
- • Gofalu bod y swyddfa’n cael ei chadw’n lan a chyda cyflenwad offer da
Gwybodaeth a Phrofiad:
Hanfodol:
- • Gallu da gyda chyfrifiaduron
- • Profiad o weithdrefnau gweinyddol
- • • Gallu i weithio gydag amrywiaeth o bobl
Dymunol:
- • Gwybodaeth am feddalwedd QuickBooks
- • Gwybodaeth am gyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu
- • Yr iaith Gymraeg
Ceisiadau: anfonwch lythyr cais a CV at Peter Powell yn
Dyddiad Cau: Hanner dydd, Medi 15fed 2022