Strategaeth ac Effaith
Mae gan yr Afon Ddyfrdwy amrywiaeth eang o fygythiadau a phroblemau sy’n achosi dirywiad yn ei bywyd gwyllt a’i physgodfeydd. Mae Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru yn canolbwyntio ei gwaith ar ddarparu ymyriadau ymarferol sy’n gwneud gwahaniaeth. I wneud hyn rydym yn rhannu ein gwaith i mewn i raglenni sydd wedi’u targedu, pob un â gweledigaeth unigol sy’n gweithio tuag at ein hamcan cyffredinol o adfer y ffrydiau, nentydd, a’r afonydd ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.