Gwirfoddolwch Heddiw
Maer hyn yr ydym yn ei wneud yw gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r Afon Ddyfrdwy, er budd ei bywyd gwyllt.
Mae ein gwirfoddolwyr yn hanfodol, maent yn cyflawni tasgau ymarferol sy’n gwella cynefin ac yn gwneud yr afon yn lle gwell i fod. Os ydych chi eisiau mynd allan i’r awyr agored a helpu i adfer yr Afon Ddyfrdwy, cofrestrwch ar ein llwyfan gwirfoddoli, TeamKinetic, lle mae ein holl gyfleoedd sydd ar y gweill wedi’u rhestru. Os ydych o dan 18 oed, gofynnwch i’ch rhiant neu warchodwr gysylltu â ni ar eich rhan.
Mae digon i’w wneud—o greu cynefinoedd a glanhau afonydd i electrobysgota i fonitro poblogaethau eogiaid a brithyllod. Gallech hefyd wirfoddoli yn un o’n digwyddiadau addysg neu hyd yn oed ddod yn un o’n hymddiriedolwyr gwerthfawr.
Mae Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru yn rhedeg rhaglen wirfoddoli sydd wedi bod yn hynod werthfawr i mi a byddwn yn ei hargymell i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gofalu am eu hamgylchedd.
Rydych chi’n cael cwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd gan yr arbenigwyr a chael hwyl yn yr awyr iach. Fy uchafbwynt fyddai plannu coed ar hyd fy rhan leol o’r afon, lle mae fy nheulu a minnau’n cerdded yn rheolaidd.
Mae gwybod fy mod wedi cyfrannu at iechyd fy amgylchedd lleol a bod mewn sefyllfa i arsylwi’n rheolaidd ar dyfiant y coed a blannais wedi rhoi teimlad o les aruthrol i mi ac rwy’n falch o fod wedi cymryd rhan.
Adam, Llidiart-y-Parc


Wrth godi sbwriel ar y Ddyfrdwy datgelom amrywiaeth eang o sbwriel, yn amrywio o gadeiriau i ganiau cwrw. Roedd yn amlwg o’m profiad ciplun bod llawer o grwpiau yn y gymuned sy’n cyfrannu at gyflwr llygredig yr afon.
Mae gweithio gydag Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru wedi bod yn agoriad llygad go iawn. Mae wedi gwneud i mi feddwl sut y gallant ymgysylltu â ffermwyr, pysgotwyr, twristiaid a grwpiau eraill i fynd i’r afael â faint o sbwriel sydd yn y Ddyfrdwy.
Rebecca, Farndon