Dod yn Ddinesydd-Wyddonydd

Ymunwch ag un o’n cynlluniau gwyddoniaeth dinasyddion i arolygu’r Ddyfrdwy.

Mae ein mentrau gwyddoniaeth dinasyddion yn amrywio o fonitro llygredd a samplu microblastigau i’n helpu i adnabod infertebratau fel pryfed afon. Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi yn rheolaidd i gymryd rhan yn y cyfleoedd hyn.


Monitro llygredd

Mae dinasyddion-wyddonwyr yn monitro llednentydd y Ddyfrdwy trwy fesur ffosffad, dangosydd da o lygredd, a chofnodi arsylwadau gweledol o lygredd. Mae’r cynllun yn sylwi ar ddigwyddiadau llygredd, yn adnabod ardaloedd dyfrol diraddiol ac yn targedu ein gwaith. Rhoddir cymorth i adrodd am fethiannau rheoleiddio i gyrff y llywodraeth neu adnabod a gweithredu datrysiadau mewn achosion nad ydynt yn rhai rheoleiddiol.

Samplu microblastigau

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Caer, Blits Dŵr Microblastig y Ddyfrdwy yw’r astudiaeth fanwl gyntaf o lygredd microblastigau yn nalgylch yr Afon Ddyfrdwy. Mae ein dinasyddion-wyddonwyr yn casglu samplau dŵr ar draws dalgylch y Ddyfrdwy i’w dadansoddi gan fyfyrwyr sy’n wirfoddolwyr ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caer. Bydd canlyniadau cam cyntaf y prosiect ar gael yn 2023.

Adnabod infertebratau

Mewn partneriaeth â Wildfish, rydym yn monitro infertebratau mewn tair prif afon o fewn y Ddyfrdwy: Afon Alun, Afon Ceiriog a Nant Aldford. Mae dinasyddion-wyddonwyr yn helpu i adnabod yr infertebratau i lefel rhywogaeth. Mae gan bob afon bum lleoliad samplu sy’n darparu data a fydd yn nodi tueddiadau hirdymor o fewn yr afonydd, gan ganiatáu i ni fonitro effaith ein gwaith.


Gwelais fod Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru yn galw am wirfoddolwyr ar wefan y clwb pysgota rwy’n aelod ohono. Roedd yn apelio ataf oherwydd fy mod wedi bod yn bryderus am effeithiau arllwysfa o waith trin carthion i’r Afon Ceiriog. Roedd gwirfoddoli i’r Ymddiriedolaeth yn golygu y gallwn brofi’r dŵr yn hytrach na defnyddio fy llygaid a’m trwyn yn unig!

Gyda’r holl gyhoeddusrwydd cenedlaethol am gyflwr ein hafonydd, mae’n braf gwybod fy mod yn rhan o geisio gwneud rhywbeth amdano. Gobeithio, wrth i fwy o bobl gymryd rhan ac wrth i fwy o brofion gael eu gwneud i nodi problemau’n lleol, y bydd y rhai sy’n llygru yn meddwl ddwywaith ac yn gwneud yn siŵr bod dyfrffyrdd yn ddiogel i bobl ac i fywyd gwyllt.

Iain, Selattyn

Hyfforddiant gwyddoniaeth dinasyddion i fonitro llygredd| © Jim Holmes

James, dinesydd wyddonydd Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru a derbynnydd ein Gwobr Gwarcheidwad Afon 2022, gyda Peter Powell, Prif Weithredwr

Rwyf wedi bod yn mwynhau monitro llygredd. Yn wir yn hoffi gweld lleoedd newydd ar hyd yr afonydd a dod yn fwy cyfarwydd â’r dirwedd yr wyf yn byw ynddo. Mae cael hwyl yn ei wneud yn bwysig dwi’n meddwl.

Daeth eich prosiect ar yr amser iawn i mi gan fy mod eisiau gwneud rhywbeth mwy ystyrlon felly diolch i chi am adael i mi gymryd rhan.

James, Wrecsam