Llifoedd Amgylcheddol
‘Mae gollyngiadau o Gronfeydd Dŵr y Ddyfrdwy yn cael eu rhyddhau yn y modd mwyaf amgylcheddol addas posibl’
Mae lefelau dŵr yr Afon Ddyfrdwy ymhlith y rhai a reolir fwyaf yn Ewrop. Mae’r gyfradd rhyddhau yn cael ei reoleiddio i leihau llifogydd, gan ddarparu lefelau digonol ar gyfer dŵr yfed tra’n darparu cyfleoedd ar gyfer hamdden. Gall patrwm y gollyngiadau gael effeithiau negyddol ar fywyd gwyllt yr afon. Drwy adnabod sut mae’r gyfundrefn llif yn effeithio ar fywyd gwyllt, gellir gwneud newidiadau gydag effeithiau dibwys ar rhanddeiliaid eraill.
