Ni Ddylai fod yn y Ddyfrdwy
‘Creu dull a arweinir gan y gymuned i ddileu ffynonellau llygredd’
Llygredd yw un o’r problemau amgylcheddol mawr sy’n wynebu’r Afon Ddyfrdwy. Mae ganddi lawer o ffynonellau a llwybrau sy’n ei gwneud yn broblem heriol na allwn ei datrys ar ein pen ein hunain. Mae ‘Ni Ddylai fod yn y Ddyfrdwy’ yn codi ymwybyddiaeth o lygredd a’i ddifrod. Rydym yn gweithio gyda’r cymunedau hyn sydd newydd ymgysylltu i ganfod a dileu’r ffynonellau llygredd. Drwy’r dull hwn, credwn y gallwn gynyddu’n esbonyddol y nifer o bobl sy’n gweithio tuag at Afon Dyfrdwy lân.
Casglu sbwriel
Rydym yn trefnu grwpiau casglu sbwriel ar y dŵr ac oddi arno o amgylch dyfrffyrdd dalgylch yr Afon Ddyfrdwy. Cysylltwch â ni os ydych chi’n gwybod am fan problemus o ran sbwriel y mae angen mynd i’r afael ag ef neu os hoffech gael cymorth i arwain eich sesiwn casglu sbwriel eich hun.

Digwyddiadau addysg
Rydym yn angerddol dros godi ymwybyddiaeth o lygredd yn nalgylch yr Afon Ddyfrdwy gyda’r cyhoedd a rhannu syniadau am sut y gall unigolion a grwpiau weithredu i helpu i wella ein dyfrffyrdd. Rydym yn ymwneud a gwahanol weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu, o sgyrsiau cyhoeddus a digwyddiadau i ymweliadau ysgolion.
Cysylltwch â ni os hoffech i ni ymweld â’ch ysgol, grŵp cymunedol neu ddigwyddiad.

Monitro llygredd gwyddoniaeth dinasyddion
Gan ddefnyddio stribedi prawf cyflym, mae dinasyddion-wyddonwyr yn mesur ffosffad (PO4) sy’n bodoli’n naturiol o fewn ecosystemau afonydd mewn lefelau isel iawn o dan 50 ppb (rhannau fesul biliwn). Gall lefelau uwch o ffosffad fod yn ddangosydd da o lygredd, gan fod y maetholyn i’w gael mewn gwastraff anifeiliaid a dynol, cemegion glanhau, goferiad diwydiannol a gwrtaith.
Gall lefelau ffosffad uchel achosi ewtroffigedd (algae yn tyfu’n ormodol oherwydd lefelau uchel o faetholion), sydd wedyn yn effeithio ar ansawdd dŵr, yn niweidio planhigion ac anifeiliaid ac yn ein hatal rhag defnyddio’r dŵr. Ar 100 ppb mae’r dŵr yn cael ei lygru ar lefelau a fydd yn niweidiol i fywyd gwyllt. Bydd rhywfaint o fywyd gwyllt yn y dyfroedd hyn o hyd – ond ni fydd ganddynt y cyfoeth rhyfeddol o fywyd, na’r rhywogaethau prin sy’n byw mewn dŵr glân. O 200-500 ppb (lefelau uchel) neu 1000-2500 ppb (lefelau uchel iawn), weithiau mae’r rhywogaethau mwyaf garw yn ei chael hi’n anodd gwneud cartref.
Mae’r data a gasglwyd yn cael ei ddefnyddio i adnabod ardaloedd dyfrol diraddiedig, adnabod digwyddiadau llygredd a thargedu ein gwaith i ddileu llygryddion sy’n mynd i mewn i’r Ddyfrdwy. Mae pob pwynt ar y map yn arolwg unigol a gynhelir gan ddinesydd wyddonydd. Nid yw lefelau uchel o ffosffad ar bwynt penodol o reidrwydd yn golygu bod y ffynhonnell llygredd yn y lleoliad hwnnw – gallai’r ffynhonnell fod unrhyw le i fyny’r afon o’r pwynt hwnnw.