Rheoleiddiad yr Afon Ddyfrdwy, llifoedd annaturiol a’i effaith ar ACA y Ddyfrdwy a Llyn Tegid

Yr wythnos hon, mae Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru wedi rhyddhau adroddiad newydd sy’n nodi’r tair effaith allweddol ar fywyd gwyllt o Gynllun Rheoleiddiad y Ddyfrdwy. Credwn fod y cynllun, sy’n sicrhau y gall yr afon ddarparu dŵr ar gyfer 2 filiwn o gartrefi, yn cael effaith negyddol ar fywyd gwyllt yr afon gan gynnwys rhywogaethau pysgodfeydd pwysig. Mae’r problemau hyn, ynghyd ag ansawdd dŵr gwael, rhywogaethau ymledol a cholli cynefinoedd, yn gyrru’r dirywiad ym mioamrywiaeth dŵr croyw’r afon.

Mae’r adroddiad yn nodi tair problem allweddol sy’n effeithio ar fywyd gwyllt yr afon.

1. 1. Lleihad mewn llifeiriant naturiol sy’n tarfu ar gylchredau bywyd llawer o rywogaethau dŵr croyw.

2. Newidiadau cyflym mewn gollyngiadau o Lyn Celyn gan greu llifoedd annaturiol iawn yn y Tryweryn, rhan o’r ACA ac afon silio bwysig ar gyfer eogiaid.

3. Mae isadeileddau’r cynllun yn rhwystro neu’n amharu ar fudiad rhywogaethau pysgod i fyny ac i lawr yr afon.

Mae’r adroddiad yn nodi naw argymhelliad allweddol a fydd, o’u rhoi ar waith, yn dechrau lleihau’r niwed amgylcheddol.

Dywedodd Peter Powell, Prif weithredwr, ‘Mae bioamrywiaeth dŵr croyw yn dirywio ledled y DU ar raddfa frawychus, gan gynnwys yr Afon Ddyfrdwy. Mae’r rhesymau’n eang ac yn amrywiol, ond yn yr adroddiad hwn a ryddhawyd heddiw rydym wedi nodi tair problem allweddol a achosir gan Gynllun Rheoleiddiad y Ddyfrdwy presennol. Mae angen rhoi blaenoriaeth i leihau effaith y problemau hyn os ydym am wrthdroi’r dirywiad ym mywyd gwyllt y Ddyfrdwy.’

Gellir lawrlwytho’r adroddiad llawn yma: