Cwrdd â Staff Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru

Peter Powell – Prif Weithredwr
Magwyd Peter ar fferm laeth ar gyrion y Trallwng ar lan yr Afon Hafren a dyma le datblygodd angerdd am fyd natur.
Cwblhaodd Peter radd baglor mewn Ecoleg ym Mhrifysgol Caerdydd a gradd meistr mewn Cadwraeth Bywyd Gwyllt Uwch ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Ymunodd Peter ag Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru ym mis Awst 2019 ar ôl gweithio yn flaenorol yn Ymddiriedolaeth Afon Hafren a Sefydliad Gwy ac Wysg.

Chris Meredith – Rheolwr Rhaglen adfer cynefinoedd afon
Magwyd Chris o fewn dalgylch y Ddyfrdwy ac ymunodd ag Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru ar ôl cwblhau llawer o waith blaenorol yn nalgylch Lloegr.
Ar ôl cwblhau gradd Bioleg ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth Chris ymlaen i astudio am Radd Meistr mewn Ymchwil mewn Ecoleg ym Mhrifysgol Bangor, cyn dechrau gyrfa mewn cadwraeth bywyd gwyllt. Treuliodd amser yn gweithio yn Affrica cyn symud yn ôl i’r DU, tra bod ei yrfa wedi datblygu, treuliodd fwy o amser yn gweithio ar afonydd, boed hynny’n creu cynefinoedd, yn atal llygredd neu’n rheoli rhywogaethau ymledol.
Ymunodd Chris ag Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru ym mis Gorffennaf 2021 o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Gaer a daw â digonedd o brofiad mewn cadwraeth ymarferol gydag ef ar draws ystod eang o gynefinoedd.

Maddy Fowler – Rheolwr Rhaglen Ni Ddylai Fod yn y Dddyfrdwy
Yn wreiddiol o Awstralia, symudodd Maddy i’r DU yn 2018, yn ystod ei gyrfa fel archeolegydd morol. Cwblhaodd Maddy PhD mewn archeoleg ym Mhrifysgol Flinders, De Awstralia, yn 2015 ac mae wedi gweithio mewn ymgynghoriaeth, amgueddfeydd ac academia.
Ymunodd Maddy ag Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru ym mis Ionawr 2022, ar ôl arwain gwirfoddolwyr ym maes archaeoleg yn flaenorol yn ogystal â gweithio gyda’r Adran Cadwraeth (Seland Newydd) a Glandŵr Cymru (DU). Daw â digonedd o brofiad gyda hi ym maes ymgysylltu â’r gymuned ac addysg.

Gareth Jones – Swyddog prosiect
Mae Gareth Jones yn swyddog prosiect ar gyfer ein Rhaglen Adfer Cynefinoedd Afon. Yn dilyn blynyddoedd o weithio fel athro Bioleg, newidiodd ei yrfa a dilyn ei angerdd dros gadwraeth natur a bywyd gwyllt. Gan ddechrau gyda gwirfoddoli gyda sefydliadau bywyd gwyllt amrywiol symudodd ymlaen i weithio fel contractwr cefn gwlad yn ymwneud â phrosiectau rheoli cynefinoedd, codi waliau sych a chynnal a chadw llwybrau.
Dechreuodd ei ddiddordeb mewn afonydd a’i bywyd gwyllt yn ifanc, wrth dyfu i fyny yn pysgota ar hyd yr Afon Alun yn yr Wyddgrug. Mae’n mwynhau gwahanol agweddau o fywyd gwyllt gan gynnwys gwylio adar, pysgota, astudio gwyfynod a phlanhigion. Mae Gareth yn byw ar lan yr afon Llynor yn Llandrillo gyda’i wraig a’i ddwy ferch.
Mae gan Gareth ddigonedd o brofiad ymarferol a bydd yn gweithio i adnabod ac adfer ardaloedd o gynefin afon ar draws y Ddyfrdwy i helpu bywyd gwyllt a phobl leol.

Sara Mault – Swyddog prosiect
Sara Mault yw swyddog prosiect ein rhaglen Ffermio Dŵr Doeth.
Magwyd Sara ar fferm bîff a defaid ychydig y tu allan i Gorwen. Mae gan y fferm llednant o’r Ddyfrdwy sy’n rhedeg trwy ganol y fferm sydd wedi tanio diddordeb i gynnal ansawdd dŵr ac iechyd afonydd yn yr ardal.
Mae Sara wedi astudio Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Harper Adams gan raddio yn 2018.

Dylan Roberts – Swyddog prosiect
Cafodd Dylan ei eni a’i fagu yn ardal Corwen fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf. Ar ôl gweithio yn y fasnach gig am fwy na tri degawd, cafodd Dylan newid gyrfa ac ymunodd ag Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru fel swyddog prosiect ar y rhaglen Adfer Cynefinoedd Afon ym mis Ionawr 2023.
Fel pysgotwr plu brwd ers yn blentyn, yn Is-gadeirydd Clwb Pysgota Corwen a’r Cylch, ac un o drefnwyr Gŵyl Ryngwladol Hanak Penllwyd, mae’r Afon Ddyfrdwy a’i physgod yn agos iawn at ei galon.