Cwrdd â’r Ymddiriedolwyr

Richard Lucas – Cadeirydd

Richard Lucas (Cadeirydd)

Mae Richard yn Feddyg Teulu sydd wedi ymddeol ac yn byw ym Mhenarlâg. Mae’n bysgotwr brwd ar y Ddyfrdwy a’r Tyne.

Mervyn Williams (Is-gadeirydd)

Yn Gymro Cymraeg ac yn gyn athro Hanes sydd wedi ymddeol, mae Mervyn wedi bod yn bysgotwr brwd ers dros 50 mlynedd yn dal ei frithyll cyntaf ar ei afonydd genedigol ym Mhenrhyn Llŷn.

Mae ganddo ddiddordeb actif yn yr amgylchedd a’r ymdrechion i wella cynefinoedd ac mae’n aelod o nifer o gymdeithasau cadwraeth.

Mae Mervyn yn byw yn Sir Ddinbych, yn briod ag un mab, merch trwy briodas a dau ŵyr.

Huw Evans – Trysorydd

Huw Evans (Trysorydd)

Yn frodorol o Langollen mae Huw wedi byw ar hyd ei oes ar lannau’r Ddyfrdwy. Cyfreithiwr oedd Huw sydd bellach wedi ymddeol, rheolodd Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru rhwng 2007 a 2021. Mae’n frwd dros gadwraeth dalgylch y Ddyfrdwy ac addysgu’r cyhoedd i warchod yr amgylchedd dŵr.

Caroline Dawson

Wedi’i magu ar gyrion AHNE Bryniau Clwyd, mae gan Caroline dros 15 mlynedd o brofiad o weithio gydag ystod o fusnesau a sefydliadau o bob rhan o’r sector bwyd-amaeth – o’i swydd gyntaf fel Swyddog Prosiect Bwyd Lleol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam i Bennaeth Bwyd-Amaeth yn Promar International. Mae hi bellach yn rhedeg ei busnes ymgynghorol bwyd-amaeth llwyddiannus ei hun – Fodder Lass Consulting.

Mae ganddi radd BSc Anrh mewn Gwyddor yr Amgylchedd, ynghyd â TR mewn Arweinyddiaeth, mae’n Aelod Proffesiynol o’r Sefydliad Rheolaeth Amaethyddol ac yn ddiweddar cwblhaodd y Cwrs ‘Her Arweinyddiaeth Wledig’ Worshipful Company of Farmers.

Pan nad yw’n gweithio gyda busnesau bwyd-amaeth, mae Caroline yn rhedeg cwmni rhwyf-fyrddio – SUP Lass Paddle Adventures, wedi’i leoli ar yr Afon Ddyfrdwy.

Gareth Jones – Ymddiriedolwr

Gareth Jones

Wedi ei eni a’i fagu yn nhref Rhuthun. Lle mae bellach yn byw gyda’i deulu.

Meddu ar radd mewn Astudiaethau Amgylcheddol a HND mewn Defnydd Tir Gwledig.

Yn gweithio i Gadwch Gymru’n Daclus, lle cafodd ei gyflogi’n wreiddiol fel Swyddog Afonydd.

Cadeirydd Clwb Pysgota Corwen a’r Cylch.

Gareth Foulkes – Ymddiriedolwr

Gareth Foulkes

Ganwyd Gareth yn Nyffryn Clwyd a dechreuodd allan fel y drydedd genhedlaeth ar y fferm deuluol. Ail-hyfforddodd Gareth fel athro bioleg, cyn ymuno ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Mae Gareth yn angerddol dros amaethyddiaeth gynaliadwy a daeth yn ymddiriedolwr yn 2020.

Michael Stirk

Cyfarwyddwr Cwmni Masnachwr Amaethyddol yn Swydd Amwythig, mae Michael wedi pysgota ar hyd ei oes a dal ei Eog cyntaf ar y Ddyfrdwy yn 13 oed. Mae Michael yn Is-gadeirydd Cymdeithas Pysgodfeydd y Ddyfrdwy ac yn aelod o ‘Midland Fly Fishers’.

Bu’n ymwneud â’r Ymddiriedolaeth ers 1999 ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i warchod a gwella dalgylch y Ddyfrdwy. Mae Michael yn briod â Sue gyda dau o blant mewn oed ac mae pob un ohonynt yn pysgota.

Mark Pierce – Ymddiriedolwr

Mark Pierce

Magwyd Mark yn y bryniau uwchben Aber yr Afon Ddyfrdwy, gyda rhostir yn llythrennol y tu allan i’w ddrws cefn, ac mae bob amser wedi bod â diddordeb mawr ym myd natur. Ar ôl cwblhau gradd mewn Cemeg Gymhwysol, penderfynodd Mark ddilyn gyrfa mewn peirianneg ac mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd gwaith ym maes Rheoli Prosiectau, yn amrywio o brosiectau bach i brosiectau mawr werth miliynau o bunnoedd. Yn ystod y cyfnod hwn ni chollodd Mark ei angerdd am fyd natur a chwblhaodd amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys Cwrs y Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd – Rheoli Pysgodfeydd a Diploma mewn Cadwraeth. Mae Mark yn treulio’r rhan fwyaf o’i ddyddiau Sul yn gweithio gyda’r grŵp pysgota lleol i wella’r cynefin ar ei afon leol

Nick Jenkins

Mae Nick wedi byw ar lannau’r Afon Ddyfrdwy ers dros 30 mlynedd. A keen fisherman and ornithologist, he is passionate about the preservation of native species and the protection of the environments in which they live.

Yn y gwaith, mae’n Gyfrifydd Siartredig yng Nghaer yn helpu unigolion a busnesau teuluol, yn enwedig yn y sector gwledig.